Eglwys y Tabernacl, Caerdydd

Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd

Oedfaon y mis

Awst 3ydd
OEDFAON UNEDIG YN Y CRWYS
10.30 Oedfa Foreol - Parchg. Richard Brunt, Llundain
6.00 Oedfa Hwyrol - Parchg. Richard Brunt, Llundain

Awst 4ydd
7:30 Oedfa goffa ddwyieithog - Canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr ar Awst 4, 1914 - Y Deml Heddwch, Parc Cathays.
22:45 -23:15 Gwylnos yn Festri Eglwys Minny Street

Awst 10fed
OEDFAON UNEDIG YN Y TABERNACL
10.30 Oedfa Foreol - Parchg. Judith Morris, Aberystwyth
6.00 Oedfa Hwyrol - Parchg. Judith Morris, Aberystwyth

Awst 17eg
OEDFAON UNEDIG YM MINNY STREET
10.30 Oedfa Foreol - Parchg. John Gwilym Jones, Caerfyrddin
6.00 Oedfa Hwyrol - Parchg. John Gwilym Jones, Caerfyrddin

Awst 24ain
OEDFAON UNEDIG YN EBENESER
10.30 Oedfa Foreol - Parchg. Towyn Jones, Caerfyrddin
6.00 Oedfa Hwyrol - Parchg. Towyn Jones, Caerfyrddin

Awst 31ain
OEDFAON UNEDIG YN SALEM, TREGANNA
10.30 Oedfa Foreol - Parchg. Dafydd Owen, Caerdydd
6.00 Oedfa Hwyrol - Parchg. Dafydd Owen, Caerdydd

Cyfarfodydd yr wythnos/Weekly meetings

Sul/Sunday:
Oedfa foreuol/Morning service: 10.30am
Oedfa hwyrol/Evening service 6pm

Iau/Thursday:
Cwrdd Defosiynol/Devotional meeting: 6.30pm

Sadwrn/Saturday:
Bore coffi a Stondin Masnach Deg/Coffee morning & Traidcraft stall: 9:00am-12:00

Valid XHTML 1.0 Strict

Papur yn agor y drafodaeth ar gofrestru’r Tabernacl i gynnal priodasau un-rhyw

(Ymddangosodd darnau o’r papur hwn fel erthygl olygyddol gen i yn Seren Cymru yn ddiweddar. Cyflwynir y mater mewn cwrdd eglwys ar Mehefin 8fed, a gobeithir dod i benderfyniad mewn cwrdd eglwys arall ar Mehefin 29ain).

Ddiwedd mis Mawrth, pasiwyd deddf yn San Steffan, yn cyfreithloni priodasau un-rhyw. Gofynnir i’r gwahanol gyrff Cristnogol ystyried a ydynt am gofrestru eu hadeiladau i gynnal priodasau felly, neu eithrio o’r cofrestru. Bydd y Catholigion, yr Anglicaniaid, y Methodistiaid a’r Presbyteriaid yn gorfod dod i benderfyniadau mewn ffyrdd gwahanol i’r Annibynnwyr a’r Bedyddwyr yng Nghymru. Mwy na thebyg bydd sawl cynulleidfa yn dweud nad yw’n debygol y bydd galw am drefniadau felly, ac mai dim ond sefydlu egwyddor a ddisgwylir gennym. Efallai na fydd gofyn am flynyddoedd lawer, os o gwbl.

Bydd haneswyr y dyfodol yn nodi bod y chwarter canrif ddiwethaf wedi gweld newid dramatig yn agwedd pobl gwledydd Prydain, a gwledydd eraill wrth gwrs, tuag at wrwgydwyr a lesbiaid. Bu’r cyfnod cymharol ddiweddar pan oedd gwrwgydiaeth yn anghyfreithlon, gyda chymdeithas yn dueddol o fod yn rhagfarnllyd tuag atynt. Bellach rydym yn cydnabod dilysrwydd statws gwrwgydwyr a lesbiaid yn gyfreithiol ac yn cydnabod eu perthynas yng ngolwg cymdeithas a chyfraith. Bu stigma negyddol yn y gorffennol, ond bellach mae llawer mwy yn derbyn normalrwydd rhywioldeb y bobl hoyw. Bu llawer o bobl gyhoeddus yn barod i ddatgan ar goedd beth yw eu statws rhywiol, er na ddylem disgwyl i unrhyw un wneud datganiad er mwyn plesio cymdeithas yn gyffredinol.

Erys y mater yn ofid i rai, ac wrth i aelodau’r eglwysi ei drafod, mae angen i bawb ddangos parch tuag at bob safbwynt. I nifer, mae’r ateb yn syml wrth ystyried beth yw ystyr y gair priodas, ac mae traddodiad yn dweud bod priodas yn air ar gyfer yr uniad rhwng bachgen a merch, ac mae’r sefydliad cyn hyned â’r ddynoliaeth bron. Yn sicr, ceir cyfeiriadau Beiblaidd at briodas yn ymestyn yn ôl i’r cyfnod cynharaf, er bod priodas yn y diwylliant Hebreig yn derbyn bod hawl gan ddyn i gael mwy nag un cymar. Gwelir priodas yn aml fel rhan o gyfundrefn wleidyddol, nid anhebyg i’r hyn sydd wedi digwydd yn Ewrop tan y cyfnod diweddar.

Bydd eraill yn dadlau yn erbyn y cysyniad o briodas hoyw gan hawlio nad yw oddi fewn i’r ethos Gristnogol. Cyfeirir at eiriau Iesu yn y bregeth ar y mynydd (Mathew 5: 27-32) ac mae’r geiriau ar ysgariad a godineb yn glir iawn. Ceir gan Paul a Phedr gyfeiriadau at berthynas gwŷr a gwragedd mewn priodas gyda’i gilydd, ac er fod y ddau yn gosod y gwryw yn ben ar y wraig, ac nad oes perthynas gyfartal rhyngddynt, mae’r eglwys Gristnogol yn amlwg o blaid priodas lle mae parch a chariad tuag at ei gilydd. Ar draws y canrifoedd a’r cyfandiroedd, bu’r eglwys yn barod i weld priodas fel modd o gynghrheirio teuluoedd neu lywodraethau i’w gilydd.

Gwelwyd ar dudalennau Seren Cymru yn ddiweddar gyfeirio at feddwl Paul wrth ystyried gwrwgydiaeth ac nid oes amheuaeth iddo osod gwrwgydiaeth fel pechod. Yn 1 Cor 6:9-10 a 1 Timotheus 1:8-11, ceir datganiad clir a diamwys, gan adlewyrchu llais crefyddol yr Hebreaid yn Lefiticus 20:13. I’r sawl sy’n lythrenolwyr Beiblaidd, mae’r drafodaeth yn gorffen yno, ond prin fod disgwyl i Paul ddeall gwyddor geneteg, sy’n dal i ymchwilio yn y maes. Yn ystod y chwarter canrif diweddar cafwyd canlyniadau meddygol a seicolegol yn gwrthod yr honiadau fod pobl yn dewis bod yn hoyw. Nid oes gwir i’r fath honiad, a gobeithiwn fod homoffobia, sef casau gwŷr a gwragedd hoyw, yn encilio’n llwyr o’n plith.

Bydd angen gofyn beth sydd gan Iesu i’w ddweud wrthym gan nad oes dyfyniad o’i eiriau yn benodol am bobl hoyw, er bydd llawer yn barod i gyfeirio’n sylw ato yn croesawu pawb i wledd y bywyd. Nid oedd am eithrio pobl oherwydd eu cenedl, eu gwaith, eu statws cymdeithasol, eu hoed na’u rhyw. Pan ddygwyd ato wraig roedd y Phariseaid yn ei hystyried yn ‘bechadures’, galwodd ar y cyhuddwyr i daflu’r garreg gyntaf er mwyn ei llabyddio os ystyrient eu hunain yn ddi-bechod (Ioan 8:1-11). ‘Na fernwch fel na’ch farner’ oedd un o’i ddatganiadau cyson. (Mathew 7:1)

Dywedodd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, ym mis Ebrill eleni, y gellir codi adnod Feiblaidd i gefnogi bob safbwynt sydd ar bob pwnc. Gofynnir i ni fod yn rasol ac yn gadarhaol, yn oddefol ac yn gariadlon, ac i osgoi bod yn rhagfarnllyd a mympwyol. Beth bynnag fydd penderfyniad yr eglwys ar fater priodas un-rhyw, mae angen i’r eglwysi ymarfer cariad Crist, ac i fod yn gynhwysol yn eu gweinidogaeth. Mae Duw a dyn yn gwylio ac yn gwrando ar ein trafodaethau a’n gweithredu.

Denzil Ieuan John
Mai 2014