Eglwys y Tabernacl, Caerdydd

Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd

Oedfaon y mis

Awst 3ydd
OEDFAON UNEDIG YN Y CRWYS
10.30 Oedfa Foreol - Parchg. Richard Brunt, Llundain
6.00 Oedfa Hwyrol - Parchg. Richard Brunt, Llundain

Awst 4ydd
7:30 Oedfa goffa ddwyieithog - Canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr ar Awst 4, 1914 - Y Deml Heddwch, Parc Cathays.
22:45 -23:15 Gwylnos yn Festri Eglwys Minny Street

Awst 10fed
OEDFAON UNEDIG YN Y TABERNACL
10.30 Oedfa Foreol - Parchg. Judith Morris, Aberystwyth
6.00 Oedfa Hwyrol - Parchg. Judith Morris, Aberystwyth

Awst 17eg
OEDFAON UNEDIG YM MINNY STREET
10.30 Oedfa Foreol - Parchg. John Gwilym Jones, Caerfyrddin
6.00 Oedfa Hwyrol - Parchg. John Gwilym Jones, Caerfyrddin

Awst 24ain
OEDFAON UNEDIG YN EBENESER
10.30 Oedfa Foreol - Parchg. Towyn Jones, Caerfyrddin
6.00 Oedfa Hwyrol - Parchg. Towyn Jones, Caerfyrddin

Awst 31ain
OEDFAON UNEDIG YN SALEM, TREGANNA
10.30 Oedfa Foreol - Parchg. Dafydd Owen, Caerdydd
6.00 Oedfa Hwyrol - Parchg. Dafydd Owen, Caerdydd

Gweinidogion/
Ministers

1813- 1815
1815 – 1819  Gruffydd Davies
1819-1828 Robert Prichard
1828 – 1832 Christmas Evans
1832-1834
1834-1854 Dafydd Jones
1854-1856
1856-1888 Nathaniel Thomas
1888-1927 Charles Davies
1926-1936 John Williams Hughes
1936-1967 D Myrddin Davies
1967-1990 Raymond Williams
1990-1991
1991- Denzil John BA MTh

Yn y dechreuad ...

Llun o'r hen Tabernacl yn 1846

Agorwyd yr adeilad cyntaf yn 1821 er i'r achos ddechrau yn llofft y Star and Garter (ar Heol Lydan, ger Heol Womanby a Pharc Bute heddiw) yn 1813 yng ngofal un o flaenoriaid y fam-elwys, Croes-y-parc. Gyda thwf ym mhoblogaeth Caerdydd, ac yn aelodaeth yr achos, penodwyd y Parchedig Gruffydd Davies, o Aberafan, yn weinidog yn 1815. Erbyn 1819 daeth y Parchedig Robert Prichard, o Ddinbych, i ofalu am yr eglwys a chyda 100 o aelodau, teimlwyd bod yr achos yn ddigon cryf i adeiladu addoldy, ac agorwyd hi ar 27 Mawrth 1821 - y sefydliad cyntaf a adeiladwyd yng Nghaerdydd i weithredu'n benodol drwy gyfrwng y Gymraeg ers cyn y Normaniaid!

Erbyn 1833 roedd gan yr eglwys 220 o aelodau ac yn 1828 gwahoddwyd y Parchedig Christmas Evans i fod yn weinidog. Byddai'n ymweld ag aelodau o'r pentrefi (ie, pentrefi!) cyfagos, y Rhath a Llanedeyrn ar gefn ceffyl. Mae'n debyg bod tua 66% o'r aelodau'n byw yn yr hen dref, 12% yn y Rhath a 7% yn Llanedeyrn, 6% yn ardaloedd Blackweir, Sea Lock (ger James Street yn y Bae heddiw) a Phontcanna a thua 8% mewn plwyfi eraill fel Tredelerch ar yr adeg honno.

Y Parchedig Christmas Evans

Ym mis Rhagfyr 1834 dechreuodd y Parchedig Dafydd Jones, o ardal Llandysul, fel gweinidog gydag aelodaeth y capel wedi cwympo i 180 wedi dwy flynedd o fod heb weinidog. Ac yn ystod ei gyfnod, gyda'r aelodaeth wedi tyfu i 230, penderfynwyd helaethu'r addoldy yn 1840. [O gymharu â: Dechrau 1952 - 413 Aelod; Dechrau 1982 - 287 Aelod; Dechrau 2011 - 177 Aelod]

Adeiladwyd y capel presennol yn 1865 ar gost o £3000 gyda seddi ar gyfer 950 o bobl. Erbyn 1852 roedd aelodaeth yr eglwys wedi codi i 550. Agorwyd dau gapel Bedyddwyr Cymraeg yn ystod ganol y 19eg ganrif. Mae aelodaeth bresennol yr Eglwys tua 200.

Mae’r adeilad o gynllun Fictorianaidd traddodiadol gyda galeri ar hyd y pedair wal. Cynlluniwyd yr adeilad i ganiatáu ail galeri, ond adeiladwyd mohono, yn bennaf oherwydd y gostyngiad mewn aelodaeth dros y degawdau. Gwnaed y pulpud addurnedig o dderw, ac mae’n sefyll uwchben y sêt fawr draddodiadol. Mae hyn yn lefel llwyfan ac fe’i defnyddir ar gyfer nifer o weithgareddau defnyddiol. Fel arfer gwelir y Diaconiaid yn eistedd yma yn ystod oedfaon arferol, er bod nifer o’r diaconiaid presennol yn hoff o eistedd yn y gynulleidfa heddiw.

Gellir codi llawr y set fawr i ddadorchuddio’r fedyddfan. Mae hwn tua phedair troedfedd o ddyfnder ac fe’i llenwir gyda dŵr ar gyfer gwasanaethau bedydd. Mae ymgeiswyr Beddydiedig yn datgan eu ffydd yn Iesu Grist yn gyhoeddus ac yn ymrwymo i ddilyn ei enghraifft. Mae’r trochiad llawn yn cynrychioli marwolaeth yr ymgeiswyr i’w harferion blaenorol ac wrth godi o’r dŵr maent yn 'bobl newydd' sy’n 'cerdded ffordd yr Iôr'. Mae’r adeilad yn anghyffredin gan ei fod yn un o’r ychydig eglwysi anghydffurfwyr gyda ffenestri gyda lluniau. Mae’r ddau brif ffenestr ar flaen yr adeilad o Fedydd yr Iesu a’r Swper Olaf. Gosodwyd hwy yn 1928 er cof am weinidogaeth y Parch Charles Davies o 1888 hyd at ei farwolaeth ar 11 Ionawr 1927; pryd hefyd yr ychwanegwyd y Cyntedd Mewnol.  Mae gan y ffenestri eraill gwarelau gwydr sy’n nodi’r grasusau ysbrydol arnyn. Ffydd, Gobaith a Chariad, Gwirionedd Sancteiddrwydd, Trugaredd, Prydferthwch Heddwch, Cyfiawnder, Daioni. Gwelir y geiriau Edifeirwch a Maddeuant ar y naill ochr i’r ffenestri blaen.

Ffenestr FfyddFfenestr GobaithFfenestr Cariad